Ysbyty Aberafan

Mae Ysbyty Aberafan wedi’i leoli ar arfordir de Cymru gyda golygfeydd o’r traeth dros Fae Abertawe. Mae'r Ysbyty yn agos i ganol tref Port Talbot gyda mynediad hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus i drefi a dinasoedd Castell Nedd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae gan yr Ysbyty erddi eang a maes parcio mawr ar gyfer staff ac ymwelwyr.

Y Broses Dderbyn

Unwaith y byddwn wedi derbyn atgyfeiriad, bydd gennym gyfarfod tîm amlddisgyblaethol i drafod addasrwydd ar gyfer ein hysbyty. Os byddwn yn ystyried bod y claf yn addas, byddwn yn ceisio ei asesu o fewn 48 awr. Bydd y tîm asesu yn cynnwys; Seiciatrydd Ymgynghorol, staff nyrsio cofrestredig ac ar adegau bydd yn cynnwys seicolegydd ymgynghorol a/neu therapydd galwedigaethol. Yn dilyn yr asesiad, bydd penderfyniad yn cael ei wneud, bydd y sawl a wnaeth yr atgyfeirio yn cael ei hysbysu a bydd adroddiad yn cael ei ddarparu ar gyfer cais am arian.

Bydd angen cymeradwyo cyllid cyn y gellir cytuno ar ddyddiad derbyn. Os oes angen, gellir trefnu ymweliadau dydd â'r ysbyty cyn derbyn.

Meini Prawf Derbyn:

  • Dynion 18 oed a throsodd
  • Wedi'i gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Diagnosis cychwynnol o salwch meddwl
  • Diagnosis eilaidd anhwylder personoliaeth, anabledd dysgu ysgafn, awtistiaeth neu anhwylderau camddefnyddio sylweddau.

Eithriadau:

  • Cleifion â phroblem acíwt camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
  • Unigolion â diagnosis cychwynnol o Ddementia.
  • Unigolion â diagnosis cychwynnol o Anabledd Dysgu.

Yn dilyn atgyfeiriad, byddwn yn cynnal asesiad cyn-derbyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Bydd y tîm asesu yn cynnwys; Seiciatrydd Ymgynghorol, staff nyrsio cofrestredig ac ar adegau bydd yn cynnwys seicolegydd ymgynghorol a/neu therapydd galwedigaethol.