Cartref Gofal Queens

Mae Cartref Gofal Queens wedi’i leoli yn ardal wledig dawel Glyncorrwg. Ceir cludiant cyhoeddus i drefi lleol gan gynnwys Castell-nedd, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hon yn ardal brydferth wedi'i lleoli mewn hen bentref glofaol gyda golygfeydd helaeth sy'n cynnig lleoliad sy'n heddychlon a thawel. Er bod pentref Glyncorrwg yn dawel ac yn brydferth, mae ganddo siop leol yn ogystal â meddygfa.

Cyflwyniad

Mae Cartref Gofal Queens yn wasanaeth 4 gwely sy'n darparu cam i lawr ac adsefydlu o fewn llwybr gofal clinigol yn seiliedig ar anghenion unigolion sy'n hybu adferiad a chynnydd. Mae Queens yn cynnig cymorth i ddynion ag anghenion iechyd meddwl, cyflyrau ar y sbectrwm awtistig, ac anableddau dysgu gan gynnwys y rhai sydd â hanes fforensig. Gall ein defnyddwyr gwasanaeth fod yn destun Deddf Iechyd Meddwl (1983) wrth drafod rhyddhau, ôl-ofal a goruchwyliaeth.

Yng Nghartref Gofal Queens rydym yn credu mewn cynllunio ar y cyd. Credwn mai'r peth gorau yw nodi anghenion yn llawn a phenderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o ddarparu cymorth yn y gymuned. Mae cynlluniau cynhwysfawr ac adsefydlu yn cael eu cynnal i alluogi pob unigolyn i gyflawni ei lawn botensial drwy gynyddu ei hyder, ei sgiliau a’i annibyniaeth.

Rheolir Cartref Gofal Queens gan Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ac mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr cymorth ynghyd â mewnbwn seiciatrydd a seicolegydd os oes angen gyda chymorth pellach gan dîm cymunedol.

Cyfeiriad:

1 Heol y Frenhines, Glyncorrwg, Port Talbot SA13 3BL Ffôn: 01639 850512