Ysbyty Aberafan

Mae Ysbyty Aberafan wedi’i leoli ar arfordir de Cymru gyda golygfeydd o’r traeth dros Fae Abertawe. Mae'r Ysbyty yn agos i ganol tref Port Talbot gyda mynediad hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus i drefi a dinasoedd Castell Nedd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae gan yr Ysbyty erddi eang a maes parcio mawr ar gyfer staff ac ymwelwyr.

Gwybodaeth Ymweld

Mae gennym ystafell ymwelwyr yn yr ysbyty. Gellir cael mynediad at hwn trwy apwyntiad yn unig gydag o leiaf 24 awr o rybudd. Gellir gwneud apwyntiadau trwy ffonio'r ysbyty. Ni chaniateir i ymwelwyr o dan 18 oed gael mynediad i ystafell yr ymwelwyr, oni bai bod y Rheolwyr wedi trafod a chytuno ar hynny cyn yr ymweliad a rhaid bod hynny er lles y plentyn. Gellir cynnal ymweliadau yn y gymuned hefyd gyda chytundeb y tîm amlddisgyblaethol cyn yr ymweliad.

A gaf i barcio ar y safle?

Oes, mae gennym faes parcio bychan ar y safle. Mae Maes Parcio Talu ac Arddangos 200 llath i ffwrdd o'r ysbyty.

A yw'n bosibl aros dros nos?

Mae gan ein Hadran Weinyddol restr o westai a Gwely a Brecwast lleol y gellir eu harchebu ar eich cost eich hun.

Beth dylwn i ei wneud pan fyddaf yn cyrraedd?

Bydd aelod o’r adran weinyddol yn cyfarfod â chi ac yn eich cyfarch yn y Dderbynfa.

Beth na allaf ddod gyda mi?

Bydd y Tîm Gweinyddol yn gallu rhoi cyngor i chi ar eitemau na chaniateir yn yr ysbyty.

A fyddaf yn cael fy chwilio?

Na fyddwch, ond bydd unrhyw eitemau a roddir i gleifion yn cael eu chwilio/sgrinio cyn iddynt gael eu cludo ar y ward. Gallwch ddod ag anrhegion i'r claf, a bydd y rhain hefyd yn cael eu chwilio/sgrinio cyn mynd ar y ward. Ceir rhestr o eitemau cyfyngedig a gwaharddedig a gall tîm y ward roi copi i chi ohoni.

A gaf i ddod â bwyd gyda mi?

Dim ond gyda chytundeb y tîm aml-ddisgyblaethol y gellir dod â bwydydd o gartref. Fel arfer ni ellir storio neu ailgynhesu bwyd ar y safle. Am resymau iechyd a diogelwch yn aml dim ond i ystafelloedd ymweld y gellir mynd â bwyd ac nid i'r ward.

A ellir gwrthod neu ganslo ymweliad?

Rydym yn ceisio lleihau nifer yr ymweliadau sy'n cael eu gwrthod neu eu canslo; yn enwedig ar fyr rybudd, gan ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd trefnu teithio, cymryd amser i ffwrdd a threfnu gofal plant. Byddwn bob amser yn ymdrechu i drafod trefniadau amgen.

O bryd i'w gilydd efallai na fydd yn bosibl cynnal ymweliad. Er enghraifft, os yw'r claf yn sâl, os oes haint neu achosion neu salwch ar y ward (fel ffliw), neu os bernir bod yr ymweliad yn 'wrth-therapiwtig' neu y gallai niweidio iechyd y claf. Gallwn wrthod caniatáu i ymwelydd ddod i’r Ysbyty os: Credwn y gallent fod mewn perygl, mae eu hymddygiad yn y gorffennol wedi bod yn aflonyddgar, oherwydd ymddengys eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau pan fyddant yn cyrraedd y safle ac os ydynt yn ymosodol tuag at staff.